Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2018
Amser:
08.30 -
08.46
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio dadl UKIP (a drefnwyd ar gyfer 4 Gorffennaf 2018) tan 19 Medi 2019.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018 –
· Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Dydd Mercher 19 Medi 2018 –
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o 12 Mehefin i gyfeirio'r Bil Awtistiaeth (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar 7 Rhagfyr 2018 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad Cyfnod 1 ac ar 22 Chwefror 2019 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gwblhau ei drafodion Cyfnod 2.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn am gyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018 er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ymgymryd â'i holl fusnes sydd wedi'i drefnu cyn toriad yr haf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r adroddiad ar ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.